Neidio i'r prif gynnwy

Cwynion, Pryderon, Canmoliaeth - Gwasanaeth Iechyd Meddwl Perinatal

Nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw darparu'r gofal a'r driniaeth orau. Rydym yn croesawu eich holl safbwyntiau ac eisiau dysgu o'ch profiadau, da neu ddrwg.

Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn hapus gyda'r gwasanaeth maen nhw'n ei dderbyn. Weithiau serch hynny, efallai na fydd pethau'n mynd cystal ag y disgwylir. Drwy ddweud wrthym am eich pryderon, gallwn ymddiheuro i chi, ymchwilio a cheisio cywiro pethau. Byddwn hefyd yn dysgu gwersi ac yn gwella gwasanaethau.

I roi eich adborth, dilynwch y ddolen hon i adran 'Cwynion, Canmoliaeth ac Adborth' y bwrdd iechyd ar y wefan hon.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.