Mae Tîm Deieteg Pediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi iechyd a lles maethol plant a phobl ifanc ledled y rhanbarth.
Mae'r tîm yn gweithio gyda phlant o'u genedigaeth hyd at eu harddegau, gan fynd i'r afael ag ystod eang o anghenion meddygol a dietegol.
P'un a ydynt yn cefnogi plant ar wardiau ysbyty, mewn clinigau cleifion allanol, neu drwy wasanaethau cymunedol, mae'r tîm yn darparu cyngor deietegol wedi'i deilwra i reoli cyflyrau fel alergeddau bwyd, bwyta dewisol, rheoli pwysau, diabetes, clefyd coeliag, a phryderon tyfiant.
Maen nhw’n cydweithio'n agos â theuluoedd, meddygon, nyrsys, ysgolion, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y maeth cywir i ffynnu.
Mae'r tîm hefyd yn grymuso teuluoedd drwy addysg - gan eu helpu i ddeall sut mae dewisiadau bwyd yn effeithio ar iechyd, a'u harwain i wneud newidiadau cynaliadwy yn y cartref, yn yr ysgol, a thu hwnt. Mae eu dull tosturiol, sy'n ffocysu ar y plentyn, yn sicrhau, hyd yn oed yn ystod salwch, bod plant yn cael eu cefnogi i dyfu, datblygu a mwynhau bwyd mewn ffordd sy'n addas i'w hanghenion unigol.
Fel gwasanaeth, rydym wedi cynhyrchu fideos byr a thaflenni cyngor i'ch helpu i ddeall pam mae rhai plant yn bwyta amrywiaeth fach o fwydydd ac i roi rhai syniadau i gefnogi cymeriant maethol eich plentyn.
Mae pob fideo yn ymdrin â phwnc gwahanol a byddem yn argymell eich bod yn gwylio pob fideo yn y gyfres. Dilynwch y ddolen hon i wylio'r fideos ar YouTube.
Cliciwch ar y dolenni canlynol am ein taflenni cyngor: -
Creu profiad amser bwyd cefnogol
Dulliau cefnogi plant mewn lleoliad gofal plant
Adeiladu ar brofiadau bwyd y tu allan i'r amseroedd bwyd
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.