Mae'r wybodaeth hon wedi'i datblygu gan Fforwm Nyrsys Hyfywedd Meinwe Cymru Gyfan 09/23.
Os oes gennych broblemau ymataliaeth a chroen gwlyb o wrin neu ysgarthion, rydych mewn mwy o berygl o ddatblygu croen dolur neu groen wedi torri.
Efallai eich bod eisoes yn defnyddio cynhyrchion ymataliad fel padiau ymataliad amsugnol i helpu i gadw'r wrin a'r ysgarthion. Fodd bynnag, bydd angen i chi neu'ch gofalwr hefyd lanhau ac amddiffyn eich croen i'w atal rhag mynd yn ddolurus.
Os bydd eich croen yn mynd yn ddolurus a/neu wedi torri, mae angen i chi hysbysu gweithiwr gofal iechyd proffesiynol hy eich meddyg teulu, eich nyrs neu aelod o'r teulu neu ofalwr oherwydd efallai y bydd angen rhoi math gwahanol o driniaeth i chi.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.