Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI) yn gweithio gydag oedolion awtistig, aelodau o’u teulu ac unrhyw un sydd â rôl gefnogol (gan gynnwys gweithwyr proffesiynol). Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cynnwys staff a gyflogir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot.
Mae Gorllewin Morgannwg yn cynnwys trigolion Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Gall unrhyw un atgyfeirio at y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.
Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn darparu cymorth uniongyrchol i oedolion awtistig. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth cyfeirio i rieni sy’n gofalu am blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig.
Gall oedolion atgyfeirio eu hunain ar gyfer asesiad os ydynt yn meddwl eu bod yn awtistig.
Gall oedolion awtistig sydd wedi cael diagnosis ar unrhyw adeg yn eu bywyd gael mynediad at y gwasanaeth ar gyfer:
Gall gwasanaethau sy’n cefnogi oedolion awtistig gysylltu â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ar gyfer:
Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig hefyd yn cynnig:
Ni fydd y gwasanaeth yn derbyn cyfeiriadau ar gyfer:
Mae gwasanaethau eraill ar gael i helpu gyda'r materion uchod.
Nid yw'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn gallu darparu cymorth uniongyrchol i'r rhai sydd eisoes yn derbyn gofal a chymorth gan wasanaethau sy'n cynnwys Iechyd Meddwl Eilaidd, Anabledd Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Yn yr achosion hyn, bydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cefnogi'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y meysydd hyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth neu os hoffech wneud cais am ffurflen atgyfeirio, cysylltwch â:
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
Ysbyty Tonna
Tonna
Castell-nedd
SA11 3LX
Ffôn: 01639 862 936
Mae gwasanaeth peiriant ateb ar gael.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.