Fi yw Pennaeth Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe ac rwyf wedi gweithredu ym maes ymchwil amlddisgyblaethol ers 2001, gan weithio mewn ffotocemeg, polymerau, lled-ddargludyddion, synwyryddion, diagnosteg iechyd a cholur.
Rwyf wedi derbyn nifer o ddyfarniadau grant gan EPSRC, Innovate UK, yr UE, NIHR, Llywodraeth Cymru a chyllidwyr eraill, gyda chyfanswm cyllid o fwy na £30m.
Rwy’n aelod o banel yr EPSRC ac mae gennyf olwg eang a dwfn iawn ar dirwedd ariannu’r DU a’r UE a sectorau diwydiannol cysylltiedig – yn enwedig lled-ddargludyddion a gofal iechyd.
Rwyf hefyd yn gwneud cryn dipyn o waith allgymorth gyda'r Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
Fi yw cynrychiolydd Cymru ar bwyllgor sefydlog Penaethiaid Cemeg y DU y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Mae fy niddordebau ymchwil yn rhychwantu popeth o electroneg pŵer i ddiagnosteg iechyd.
Datblygais y biosynhwyrydd graphene epitaxial cyntaf yn y byd a micronodwyddau silicon hiraf y byd (ar gyfer cymwysiadau dosbarthu cyffuriau a brechlynnau trawsdermol).
Rwy'n gweithio'n agos gyda Chanolfan Meddygaeth Frys Cymru i ddatblygu technolegau synhwyrydd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.