Neidio i'r prif gynnwy
Yr Athro. Karl Hawkins PhD MEng (hons) FHEA

Amdanaf i

Rwy'n Athro yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan NanoIechyd.

Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys datblygu biofarcwyr gwaed newydd trwy ecsbloetio technegau rheolegol uwch.

Rwyf yn awdur dros 70 o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid ym meysydd mecaneg hylif, haemorheoleg, dyfeisiau meddygol a haematoleg.

Mae fy ymchwil wedi cael ei ariannu gan EPSRC, MRC, HCRW, ESF, British Council, cwmnïau diwydiannol a chymrodoriaeth RCUK.

Rwy'n ymchwilydd i nifer o grantiau EPSRC gyda chyfanswm gwerth o fwy na £6m.

Rwy’n weithgar yn y gymuned rheoleg ar ôl gwasanaethu fel Ysgrifennydd etholedig Cymdeithas Rheoleg Prydain ac rwy’n Gyfarwyddwr Sefydliad Mecaneg Hylifau Di-Newtonaidd.

Swyddi o barch:

Cyfarwyddwr Sefydliad Mecaneg Hylif Di-Newtonaidd

Cyfarwyddwr (Meddygaeth) Canolfan NanoIechyd, Prifysgol Abertawe

Cymrawd o Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan, Prifysgol Abertawe

Cymrawd yr Academi Addysg Uwch

 

Dilynwch y ddolen hon i broffil yr Athro Hawkins ar wefan Prifysgol Abertawe.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.