Fy niddordeb ymchwil yw epidemioleg meddygaeth frys, gyda phwyslais ar haenu risg a chanlyniadau cleifion.
Fy rôl fel Epidemiolegydd Arweiniol ar gyfer Canolfan Ymchwil Meddygaeth Frys Cymru yw darparu’r ymchwil epidemiolegol gefndir sy’n sail i’r gwaith biofeddygol a wneir mewn nifer o feysydd gan gynnwys sepsis, canser a thrawma.
Yn ddiweddar dyfarnwyd Grant Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd o £227,000 i mi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i gwblhau treial aml-ganolfan i brofi ein model haenu risg a ddatblygwyd yn flaenorol ar gyfer rheoli trawma ar y frest.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.