Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Brian Burgess

Amdanaf i

Ar hyn o bryd rwy’n dal swydd ymgynghorydd mewn meddygaeth frys yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Fy mhrif feysydd o ddiddordeb academaidd yw trawma, meddygaeth chwaraeon ac afiechyd llawfeddygol.

Cefais BSc rhyngosodedig yn Ysbyty St Bartholomew yn Llundain ac mae gennyf gyhoeddiadau ar amrywiaeth o bynciau clinigol, gyda fy nghyhoeddiad diwethaf yn ymwneud ag effaith Covid ar geulo mewn cleifion.

Rwy’n gefnogwr brwd o grŵp ymchwil MEDREP, gan werthfawrogi’n llwyr y bydd ein hymchwil yn llywio ymarfer clinigol yn y dyfodol.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.