Neidio i'r prif gynnwy

Sut fydda i'n gwybod a oes gen i ffliw?

Pan fydd pobl yn cael y ffliw, maen nhw'n tueddu i fynd yn sâl yn eithaf cyflym. Gall symptomau gynnwys twymyn, oerfel, cur pen a chyhyrau dolurus, yn aml gyda pheswch a dolur gwddf.

Nid yw tua hanner y bobl sydd wedi'u heintio â'r ffliw hyd yn oed yn sylweddoli hynny, ond gallant barhau i ledaenu'r firws i eraill. Gall hyn weithiau achosi salwch difrifol sy'n arwain at ofal ysbyty, ac mewn achosion prin, marwolaeth.

Mae rhai symptomau COVID-19 yn debyg i'r ffliw felly gwiriwch y cyngor diweddaraf a dilynwch y canllawiau COVID-19 cyfredol. Dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i'r canllawiau COVID-19 diweddaraf.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.