Os ydych chi'n oedolyn mewn grŵp risg, yn feichiog, neu'n 65 oed neu'n hŷn, gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich meddygfa neu mewn rhai fferyllfeydd lleol. Mewn rhai ardaloedd o Gymru, gall menywod beichiog hefyd gael y brechlyn gan eu bydwraig.
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi methu'r gwahoddiad i gael brechlyn ffliw, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch fferyllfa leol.
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael brechlyn ffliw, gweler y wybodaeth yn yr adran 'Plant a phobl ifanc' ymhellach i lawr y dudalen.
Os ydych chi'n gweithio mewn cartref gofal, yn weithiwr gofal cartref (sy'n darparu gofal yng nghartrefi pobl) neu'n weithiwr gofal iechyd, dilynwch y ddolen hon i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddod o hyd i wybodaeth am sut i gael eich brechlyn.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.