Neidio i'r prif gynnwy

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n meddwl bod gen i ffliw?

Os oes gennych chi dymheredd neu beswch, dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i'r canllawiau cyfredol ar gyfer pobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys Covid-19.

Fel arfer, caiff y ffliw ei reoli drwy orffwys gartref, cadw'n gynnes ac yfed digon o ddŵr. Gallwch gymryd parasetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na'r dos a argymhellir), i ostwng tymheredd uchel a lleddfu poenau os oes angen.

Fodd bynnag, os ydych chi mewn grŵp risg uchel, dylech siarad â'ch meddygfa neu'ch fferyllfa leol ar unwaith os ydych chi'n meddwl y gallai fod gennych chi ffliw, gan y gallent argymell cwrs o feddyginiaethau gwrthfeirysol.

I helpu i atal y ffliw a firysau eraill rhag lledaenu, cofiwch:

Ei Ddal
Defnyddiwch hances bapur pan fyddwch chi'n tisian neu'n pesychu.

Ei Daflu
Rhowch yr hances yn y bin cyn gynted â phosibl.

Ei Ddifa
Golchwch eich dwylo neu defnyddiwch lanweithydd dwylo.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.