Byddwn yn cynnal clinigau galw heibio ar draws ardal BIP Bae Abertawe dros fis Ionawr mewn gwahanol leoliadau.
Bydd y cynigion hyn ar gyfer pob oedolyn cymwys, a phlant rhwng 2 a 16 oed (a fydd yn cael chwistrell drwynol Fluenz).
Dim angen apwyntiad, galwch heibio!
Gwybodaeth am glinigau galw heibio mis Ionawr:
Dydd Llun 19eg i ddydd Iau 22ain Ionawr – Hwb Dementia, Canolfan Siopa'r Cwadrant, Abertawe, SA1 3QW. 10:00yb – 4:00yp.
Dydd Mawrth 20fed Ionawr – Imbiwlans ym maes parcio Archfarchnad Morrisons, Parc Diwydiannol Baglan, Heol Christchurch, Port Talbot, SA12 7DA. 10:00yb – 4:00yp.
Dydd Iau 22ain Ionawr - Canolfan Gymunedol Ystradowen CGYCC, 38 Heol Newydd, Ystradowen, Abertawe, SA9 2YY. 10:00yb – 4:00yp.
Dydd Iau 22ain Ionawr – Imbiwlans ym maes parcio Tata Steel, Port Talbot, SA13 2NF. 10:00yb – 4:00yp.
Dydd Gwener 23ain Ionawr – Neuadd Gymunedol Clydach, Heol Fardre, Clydach, SA6 5LP. 10:00yb – 4:00yp.
Dydd Gwener 23ain Ionawr - Canolfan Brechlynnau Lleol Aberafan, Canolfan Siopa Aberafan, Uned 30D, Port Talbot, SA13 1PB. 10:00yb – 4:00yp.
Dydd Llun 26ain Ionawr – Canolfan Gymunedol Trallwn, Heol Bethel, Trallwn, Abertawe, SA7 9QP. 10:00yb – 4:00yp.
Dydd Mercher 28ain Ionawr – Imbiwlans ym maes parcio Morrisons, Parc Diwydiannol Baglan, Heol Christchurch, Port Talbot, SA12 7DA. 10:00yb – 4:00yp.
Dydd Gwener 30ain Ionawr – Neuadd Gymunedol Clydach, Heol Vardre, Clydach, Abertawe, SA6 5LU. 10:00yb – 4:00yp.
Bydd rhaglen frechu ffliw flynyddol eleni i oedolion yn dechrau ddydd Mercher 1af Hydref 2025, ac eithrio menywod beichiog a allai dderbyn eu brechlyn o fis Medi. Dechreuodd y rhaglen frechu i blant hefyd ym mis Medi 2025.
Cofiwch: Nid annwyd difrifol yw'r ffliw, mae'n glefyd heintus iawn. I rai, gall y ffliw arwain at fynd i'r ysbyty, anabledd parhaol neu hyd yn oed farwolaeth. Ni fydd brechlyn y llynedd yn eich amddiffyn nawr - mae firws y ffliw yn newid yn gyson, felly mae'n rhaid i'r brechlyn newid hefyd. Cael y brechlyn ffliw yw'r ffordd orau o sicrhau eich bod yn aros yn heini ac yn iach y gaeaf hwn wrth amddiffyn y rhai o'ch cwmpas.
I bwy rydyn ni'n cynnig y brechlyn?
Pryd fydda i'n cael brechlyn?
I oedolion, bydd rhaglen ffliw'r hydref/gaeaf yn rhedeg o ddydd Mercher 1af Hydref 2025 tan ddiwedd mis Ionawr 2026.
Ac eithrio menywod beichiog a allai dderbyn eu brechlyn o fis Medi.
Dechreuodd y rhaglen frechu i blant hefyd ym mis Medi 2025.
Sut a phryd y byddaf yn clywed?
Bydd y rhai sy'n gymwys i gael y brechiad ffliw naill ai'n cael apwyntiad gan eich meddygfa neu gallwch ymweld â'ch fferyllfa gymunedol. Gwiriwch y fferyllfa am drefniadau lleol.
Yr apwyntiad sy'n cael ei gynnig yw ar gyfer brechiad ffliw eleni.
Efallai y byddwch yn clywed gennym tua dechrau mis Hydref.
Ond peidiwch â phoeni os na fyddwch yn clywed gennym ar unwaith, rhoddir apwyntiadau wrth i ni weithio trwy'r grwpiau cymhwysedd.
Yn ddelfrydol, dylech chi gael eich brechlyn cyn diwedd mis Tachwedd, fodd bynnag, os byddwch chi'n beichiogi ar ôl yr amser hwn, neu os cewch chi ddiagnosis o gyflwr sy'n eich gwneud chi'n gymwys i gael brechlyn ffliw, gallwch chi ddal i gael eich brechlyn hyd at fis Mawrth 2026.
Nid oes angen cysylltu â'ch meddygfa na'r bwrdd iechyd. Os ydych chi'n gymwys, anfonir apwyntiad atoch.
Os ydych chi'n byw mewn cartref gofal, neu'n gaeth i'r tŷ, bydd eich brechiad yn cael ei gynnig naill ai gan ddarparwyr gofal sylfaenol neu'r tîm imiwneiddio.
Sut alla i ganslo neu newid fy apwyntiad?
Os na allwch ddod i'ch apwyntiad, cyfeiriwch at eich llythyr gwahoddiad am fanylion ynghylch sut y gallwch aildrefnu.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â 01792 200492. Rydym yn gwerthfawrogi y gallai ein llinellau ffôn fod yn brysur ar adegau, ac yn ymddiheuro am hyn ymlaen llaw.
Sut fydd plant a phobl ifanc yn cael cynnig y brechlyn?
Bydd plant a phobl ifanc 2-3 oed, a'r rhai yn y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11, yn cael cynnig chwistrell drwynol fluenz.
Bydd plant cymwys 2 a 3 oed yn derbyn eu brechlyn yn bennaf o'u meddygfa.
Bydd tîm nyrsio'r ysgol yn cynnig y brechlyn i bob plentyn sy'n mynychu ysgolion cynradd ac uwchradd.
Os ydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad i blentyn nad yw'n mynychu'r ysgol, cysylltwch â'ch meddygfa i drefnu brechiad.
Bydd rhagor o wybodaeth am raglen brechu ffliw eleni yn cael ei hychwanegu at y dudalen hon pan fydd ar gael.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.