Bydd Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gofal orthopedig ac asgwrn cefn, diagnosteg, wroleg, adsefydlu a rhiwmatoleg.
Mae ymgysylltu â’r cyhoedd ar Newid Gwasanaethau Orthopedig ar gyfer y Dyfodol rhwng 20 Chwefror a 14 Ebrill 2023.
Mae hefyd ar gael yn Gymraeg, print bras (Saesneg a Chymraeg), disg sain (Saesneg a Chymraeg), fideo Iaith Arwyddion Prydain, hawdd i ddarllen a Braille. Gallwch ofyn am y rhain trwy ffonio 01639 683355 neu drwy e - bostio SBU.engagement@wales.nhs.uk.
Isod mae manylion amrywiaeth o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni a chymryd rhan yn yr ymgysylltiad hwn.
Gallwch roi’ch barn i ni drwy:
Llenwch y ffurflen ymateb sydd wedi'i chysylltu yma.
Ysgrifennu atom:
Y Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, 1 Porthfa Talbot, Baglan, SA12 7BR
E-bostio: SBU.engagement@wales.nhs.uk
Ffonio a gadael neges: (01639) 683355
Cysylltu â ni ar Facebook: Dolen i'n tudalen Facebook yma
Cysylltu â ni ar Twitter: Dolen i'n cyfrif Twitter yma
Fel arall, gallwch roi’ch barn i’r Cyngor Iechyd Cymuned trwy:
Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe, Ysbyty Cimla, Cimla, Castell-nedd, SA11 3SU
Neu e-bostio: swanseabay@waleschc.org.uk
Er bod y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru yn cael eu disodli gan Llais, y Corff Llais Preswylwyr newydd o 1 Ebrill 2023, mae trefniadau wedi eu rhoi ar waith i sicrhau bod unrhyw farn a anfonir at CIC Bae Abertawe yn cael ei drosglwyddo i Llais fel na fydd unrhyw amhariad i hyn neu ymrwymiadau eraill o ganlyniad.
Byddwn yn cynnal digwyddiadau cymunedol wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein i siarad â phobl am y newidiadau hyn ac i glywed eu teimladau fel yr ydym yn ei wneud yn arferol.
Sylwch: Mae'r sesiwn ar-lein a gynhelir ddydd Mercher 15 Mawrth, 2:00PM - 4:00PM, wedi'i ganslo. Bydd y sesiwn hon yn cael ei haildrefnu a chyhoeddir dyddiad newydd yn fuan.
Diolch i chi am ddarllen hwn a rhoi eich barn i ni.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.