Neidio i'r prif gynnwy

Ein Cytundeb Partneriaeth a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus

Cytunwyd ar y set ganlynol o egwyddorion gyda’n Fforwm Partneriaeth ac mae’n disgrifio sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni’r strategaeth hon:

  • Canolbwyntio ar yr Unigolyn: Byddwn yn sicrhau ein bod yn rhoi pobl yng nghanol yr hyn a wnawn.
  • Teg: Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd ar ddatrysiad anffurfiol lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol.
  • Amserol: Byddwn yn ymdrechu i sicrhau ein bod ar gael i wneud pethau mewn modd amserol er mwyn osgoi niwed i weithwyr.
  • Diogel: Rydym yn fodel rôl ac yn adlewyrchu ein gwerthoedd ym mhopeth a wnawn.
  • Effeithlon: Byddwn yn hyrwyddwyr y broses.
  • Effeithiol: Rydym yn cydnabod ein rolau gwahanol ac yn ceisio deall hyn yn well gyda'n gilydd.

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus 2023 bellach mewn grym yng Nghymru. Nod y gyfraith hon yw gwella gwasanaethau cyhoeddus a lles pobl drwy annog gwaith teg a gwariant cyhoeddus cyfrifol.

Beth mae'n ei olygu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?

O 1 Ebrill 2024 ymlaen, rhaid i'r Bwrdd Iechyd gydweithio'n agos ag undebau llafur wrth wneud penderfyniadau mawr a gosod nodau ar gyfer datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn rhan o Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol newydd, sy'n sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud trwy gonsensws a chyfaddawd.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae gweithio mewn partneriaeth yn dod â llawer o fanteision:
- Cyfathrebu gwell rhwng staff a rheolwyr
- Gweithwyr mwy ymgysylltiedig a brwdfrydig
- Gweithle mwy cadarnhaol a chydweithredol
- Mwy o ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein gwasanaethau

Mae BIP Bae Abertawe wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf yn dangos sut y mae wedi cyflawni'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol. Crëwyd yr adroddiad hwn ar y cyd â chynrychiolwyr undebau llafur a'i gymeradwyo gan Fforwm Partneriaeth y Bwrdd Iechyd ac mae wedi'i atodi.

Mae'r adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ac mae'n tynnu sylw at ein hymrwymiad i gydweithio er budd staff, cleifion a'r gymuned ehangach.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen Adroddiad Blynyddol y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol - Ebrill 2024 - Mawrth 2025, ar ffurf word.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.