Os ydym wedi ystyried eich pryder ac nad ydych yn hapus â'n hymateb o hyd, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yw:
Mae pob ymchwiliad yn annibynnol ac yn cael ei gynnal yn breifat. Mae ymchwilwyr yn edrych i weld a yw corff cyhoeddus wedi gweithredu'n briodol ac wedi bod yn deg yn ei driniaeth a lle mae pethau wedi mynd o chwith, gwneir argymhellion i gywiro pethau.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.