Os oes angen i chi godi pryder am wasanaeth GIG neu ofal cymdeithasol, gallwch siarad â Llais. Bydd eu staff eiriolaeth cwynion hyfforddedig ac ymroddedig yn rhoi'r gefnogaeth annibynnol, gyfrinachol a rhad ac am ddim y mae gennych hawl iddi.
Byddan nhw'n eich helpu i godi eich pryder a:
Cysylltwch â'ch tîm Llais lleol ar 01639 683490 neu anfonwch e-bost atynt i ymholiadau.cnptacabertawe@llaiscymru.org a bydd un o'r tîm yn siarad â chi am eich pryder, pa fath o gymorth rydych chi'n meddwl sydd ei angen arnoch chi ac os oes gennych chi unrhyw anghenion penodol fel deunyddiau print bras neu fynediad at rywun sy'n gallu llofnodi.
Noder nad ydyn nhw'n darparu gwasanaethau eiriolaeth yn uniongyrchol i blant a phobl ifanc ynghylch gwasanaethau gofal cymdeithasol (gwasanaethau plant). Ond gallant helpu plant a phobl ifanc gyda'u pryderon ynghylch gofal y GIG.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.