Neidio i'r prif gynnwy

Gwrando ar Bobl

Delwedd ar gyfer ymgyrch Gwrando ar Bobl

Nod y GIG yng Nghymru yw darparu'r gofal a'r driniaeth orau. Ond weithiau efallai na fydd pethau'n mynd cystal ag y disgwylir. Pan fydd hynny'n digwydd, dylech godi eich pryderon gyda'r staff sy'n ymwneud â'ch gofal neu'ch triniaeth, fel y gallant edrych ar yr hyn a allai fod wedi mynd o'i le a cheisio ei wella. Yn GIG Cymru, gwneir hyn trwy broses o'r enw Gwrando ar Bobl.

Beth yw'r broses Gwrando ar Bobl?

Gwrando ar Bobl yw'r dull cenedlaethol ar gyfer ymdrin â chwynion, digwyddiadau ac iawndal yn GIG Cymru. Ei nod yw ei gwneud hi'n hawdd i chi rannu eich profiadau, gan sicrhau eich bod yn cael eich trin ag urddas, tegwch, tosturi a pharch ym mhob cam.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth am 'Gwrando ar Bobl'.

Codi pryder: Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl

Rydym yn deall y gall siarad am bryder deimlo'n anodd, yn emosiynol, neu hyd yn oed yn llethol. Mae pobl yn dod ymlaen oherwydd bod rhywbeth wedi effeithio arnyn nhw neu ar rywun maen nhw'n gofalu amdano. Rydym eisiau i chi wybod bod eich profiad yn bwysig, ac rydym yma i wrando arnoch chi.

Gall pryder fod yn unrhyw beth sydd wedi achosi gofid neu ansicrwydd i chi ynghylch y gofal rydych chi neu berson arall wedi'i dderbyn. Gall hyn gynnwys:

  • cwyn
  • digwyddiad diogelwch cleifion - pan ddigwyddodd rhywbeth yn eich gofal nad oedd i fod i ddigwydd, ac a allai fod wedi effeithio ar eich iechyd neu'ch lles
  • unrhyw fater sy'n ymwneud â'ch gofal o fewn y gwasanaethau a ddarparwn

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, byddwn yn:

  • Gwrando arnoch chi
  • Dyweud sori pan fydd rhywbeth wedi mynd o'i le
  • Edrych ar yr hyn a ddigwyddodd
  • Ymateb i chi cyn gynted ag y gallwn, mewn ffordd agored a gonest
  • Dysgu o'r hyn rydych chi'n ei ddweud wrthym ni
  • Defnyddio y dysgu hwn i wneud ein gwasanaethau'n well i bawb

Rydym yn cydnabod y gall codi pryderon gymryd dewrder yn enwedig os yw hyn ar ôl profiad gofidus neu drawmatig. Oherwydd hyn, ein nod yw ymateb mewn ffyrdd sydd:

  • Tosturiol
  • Parchus
  • Yn sensitif i'r hyn rydych chi wedi bod drwyddo, a
  • Cefnogol i chi a'r rhai sy'n agos atoch chi

Sut i godi pryder

Rydym am ddatrys eich pryder cyn gynted â phosibl. I godi pryder, gallwch

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.