Os yw eich pwysedd gwaed yn rhy uchel cyn llawdriniaeth, gall gynyddu'r risg o gymhlethdodau fel gwaedu, problemau gyda'r galon, neu strôc yn ystod ac ar ôl eich llawdriniaeth. Mae rheolaeth dda yn eich helpu i gadw'n ddiogel ac yn cefnogi adferiad. Gall cael pwysedd gwaed uchel hefyd ohirio eich llawdriniaeth.
Mae angen i chi gadw llygad ar eich iechyd a chael archwiliadau rheolaidd os oes gennych bwysedd gwaed uchel oherwydd os na chaiff ei reoli'n dda gall arwain at
Nawr – nid dim ond cyn llawdriniaeth – yw'r amser gorau i ddechrau dilyn y cyngor a roddwyd i chi i wella'ch pwysedd gwaed a'ch iechyd cyffredinol. Gall wneud gwahaniaeth mawr.
Ewch yma i gael mynediad at dudalen 111 GIG Cymru i gael gwybod mwy am bwysedd gwaed uchel.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.