Os nad yw lefelau siwgr eich gwaed wedi'u rheoli'n dda cyn llawdriniaeth, gall hyn gynyddu'r risg o heintiau, arafu iachâd, a gwneud adferiad yn anoddach. Mae rheoli diabetes yn dda yn eich helpu i gadw'n ddiogel ac yn gwella'ch adferiad ar ôl llawdriniaeth.
Mae angen i chi gadw llygad ar eich iechyd a chael archwiliadau rheolaidd os oes gennych ddiabetes math 2 oherwydd os na chaiff ei reoli'n dda gall arwain at:
Rheoli eich siwgr gwaed a chael adolygiadau diabetes rheolaidd yw'r ffordd orau o leihau eich risg o gymhlethdodau.
Pan gewch eich adolygiad diabetig, byddwch yn cael prawf gwaed HbA1c, sy'n dangos eich siwgr gwaed cyfartalog dros y 3 mis diwethaf. Os yw eich HbA1c yn rhy uchel, efallai y bydd eich llawdriniaeth yn cael ei gohirio.
Nawr – nid dim ond cyn llawdriniaeth – yw'r amser gorau i ddechrau dilyn y cyngor a roddwyd i chi i wella'ch siwgr gwaed a'ch iechyd cyffredinol. Gall wneud gwahaniaeth mawr.
Ewch yma i wefan GIG Cymru 111 i gael gwybod mwy am ddiabetes math 2 .
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.