Mae anhunedd yn golygu eich bod yn cael problemau cysgu yn rheolaidd. Fel arfer mae'n gwella trwy newid eich arferion cysgu.
Mae gennych anhunedd os ydych yn rheolaidd:
Os oes gennych anhunedd am gyfnod byr (llai na 3 mis) fe'i gelwir yn anhunedd tymor byr. Gelwir anhunedd sy'n para 3 mis neu fwy yn anhunedd hirdymor.
Mae pawb angen gwahanol faint o gwsg.
Ar gyfartaledd:
Mae'n debyg na fyddwch chi'n cael digon o gwsg os ydych chi wedi blino'n gyson yn ystod y dydd.
Yr achosion mwyaf cyffredin yw:
Mae anhunedd fel arfer yn gwella trwy newid eich arferion cysgu.
Gwnewch:
Peidiwch
Sut y gall fferyllydd helpu gydag anhunedd
Gallwch brynu tabledi neu hylifau (a elwir weithiau’n gymhorthion cysgu) o fferyllfa a allai eich helpu i gysgu’n well.
Mae rhai yn cynnwys cynhwysion naturiol fel triaglog, lafant tra bod eraill yn cynnwys gwrth-histamin.
Ni allant wella anhunedd ond gallant eich helpu i gysgu'n well am 1 i 2 wythnos. Ni ddylid eu cymryd mwyach.
Gall rhai o'r cynhyrchion hyn gael sgîl-effeithiau, er enghraifft, gallant eich gwneud yn gysglyd. Gallai hyn ei gwneud hi'n anodd i chi wneud rhai pethau fel gyrru.
Gwiriwch gyda'ch meddyg cyn cymryd unrhyw beth ar gyfer eich problemau cysgu.
Ewch i weld meddyg teulu os:
Bydd meddyg teulu yn ceisio darganfod beth sy'n achosi eich anhunedd er mwyn i chi gael y driniaeth gywir.
Weithiau byddwch yn cael eich cyfeirio at therapydd ar gyfer therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).
Gall hyn eich helpu i newid y meddyliau a'r ymddygiadau sy'n eich cadw rhag cysgu.
Efallai y cewch eich cyfeirio at glinig cwsg os oes gennych symptomau anhwylder cwsg arall fel apnoea cwsg.
Anaml y bydd meddygon teulu bellach yn rhagnodi tabledi cysgu i drin anhunedd. Gall tabledi cysgu gael sgîl-effeithiau difrifol a gallwch ddod yn ddibynnol arnynt.
Dim ond am ychydig ddyddiau neu wythnosau ar y mwyaf y rhagnodir tabledi cysgu os:
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru 111 o'r cynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan Gwefan y GIG nhs.uk
Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti, a allai fod yn Saesneg yn unig.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.