Neidio i'r prif gynnwy

Amser gwely

Mae arbenigwyr yn cydnabod bod cwsg yn chwarae rhan sylweddol yn natblygiad yr ymennydd, ac felly mae'n bwysig bod plant yn cael digon o gwsg wrth i'w cyrff dyfu ac aeddfedu. Hefyd mae'n hanfodol eich bod chi a'ch partner yn cael amser i chi'ch hun, hefyd.

Arferol

Mae sefydlu trefn nos reolaidd yn gallu arwain at amser gwely cyson, ac yn help eich plentyn i ddysgu pwysigrwydd mynd i'r gwely gyda lleied â phosibl o dactegau oedi neu ymddygiad annodd..

  • Gynnwys eich plentyn mewn ymarfer corff rheolaidd yn gynharach yn y dydd, gallai hyn hefyd yn helpu nhw i gysgu. Mae'r ymgyrch Change4Life yn darparu rhai syniadau gwych ar sut y gallwch chi helpu'ch plentyn i fod yn fwy egnïol.
  • Annog gweithgareddau tawelach ar ddiwedd y dydd fel darllen, lliwio neu ddarlunio.
  • Chwarae gerddoriaeth yn y gefndir  a chadwch eich llais yn dawel ac yn isel.
  • Rhoi bath cynnes i'ch plentyn cyn y gwely er mwyn helpu nhw i ymlacio a chynnal tawelwch.
  • Osgoi gweithgareddau a fydd yn achosi cyffro i fyny at amser gwely, ee troelli, rhedeg o gwmpas, neidio a dringo, neu rhaglenni teledu neu gêmau cyfrifiadurol sy'n rhy ysgogol.
  • Eisteddwch gyda'ch plentyn a darllenwch lyfrau cyn mynd i'r gwely ac ystyrio defnyddio tapiau stori amser gwely, neu gerddoriaeth dawelu.
  • Ceisio osgoi edrych ar y cloc, a paid a rhuthro pethau.
  • Ceisio osgoi bwydydd sy'n cynnwys caffein neu llawer o siwgr mireinio , gan fod y rhain yn gwneud cysgu'n fwy anodd.

Amgylchedd

Ystyriwch ystafell wely eich plentyn, effallai mae'n brysur iawn ac yn ysgogol:

  • Trefnu teganau a'r gemau fel y gellir eu rhoi i ffwrdd neu eu rhoi allan o olwg yn y nos.
  • Lleihau'r arddangosfeydd neu'r addurniadau prysur ar y wal
  • Defnyddio lenni tywyll neu llenni blackowt i leihau'r symbyliad golau.
  • Gall golau nos  yn helpu os nad yw'ch plentyn yn hoffi'r tywyllwch.
  • Defnyddio duvets, blancedi trwm neu fag cysgu yn ystod misoedd oerach i roi pwysau  cyson ar y corf.
  • Newid i fag cysgu sy wedi cael ei wneud o fabrig ysgafn yn yr haf, i osgoi colli dillad gwely yn ystod y nos.

Unwaith eto, mae gan NHS Choices gyngor ardderchog am sut i reoli problemau cysgu cyffredin mewn plant. (Gwefan allanol yw hyn, dyw e ddim ar gael yn yr iaith Gymraeg.)

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.