Neidio i'r prif gynnwy

Claf gynaecolegol? Ymunwch â'n Porth Cleifion

Mae Porth Cleifion Bae Abertawe - wedi'i bweru gan Patients Know Best - yn adnodd ar-lein diogel, sy'n cynnig gwybodaeth i chi wrth law, 24/7, trwy eich ffôn clyfar, gliniadur neu dabled.

Os ydych chi'n glaf gynaecoleg gyda BIP Bae Abertawe ac yn derbyn gofal ar gyfer mislif, gwasanaethau iechyd rhywiol fel atal cenhedlu neu erthyliad, neu'n derbyn gofal menopos, gallwch gael mynediad at wybodaeth gyffredinol ychwanegol am eich cyflwr ar Borth Cleifion Bae Abertawe, yn ogystal â'ch llythyrau apwyntiad ysbyty a chlinig, a chanlyniadau profion gwaed - a anfonir yn uniongyrchol i'ch ffôn.

Nodyn: Os ydych chi eisoes yn defnyddio Ap GIG Cymru, gallwch ymuno â Phorth Cleifion Bae Abertawe drwy'r ap. Ar ôl i chi wneud hyn, gallwch gael mynediad i'r Porth yn ddi-dor pryd bynnag y byddwch chi'n defnyddio'r ap.

Yn ogystal â gynaecoleg, mae Porth y Cleifion yn gwasanaethu ystod eang o gyflyrau eraill hefyd. Felly os ydych chi'n glaf allanol gyda BIP Bae Abertawe, ymunwch heddiw!

Ewch yma i gael gwybod mwy am Borth Cleifion Bae Abertawe a sut i gofrestru.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.