Neidio i'r prif gynnwy

Uned Gynaecoleg Frys

Mae'r uned Gynaecoleg Frys - Ward 4, yn cynnig gwasanaeth meddygol 24 awr y dydd, lle gall gweithiwr meddygol proffesiynol eich atgyfeirio'n uniongyrchol i'r gwasanaeth. Mae hyn ar gyfer menywod sy'n profi unrhyw argyfwng gynaecolegol ac ar gyfer problemau beichiogrwydd cynnar acíwt. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig clinig gynaecoleg brys o ddydd Llun i ddydd Gwener bob bore yn Ysbyty Singleton - Ward 16.

Bydd meddyg uwch neu iau yn gofalu am gleifion sy'n dod i'r ysbyty gyda phroblemau gynaecolegol brys.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.