Mae'r Uned Asesu Beichiogrwydd Cynnar (EPAU) yno i fonitro cynnydd beichiogrwydd ac yn cynnig triniaeth ar gyfer cymhlethdodau beichiogrwydd cynnar. Mae'r uned wedi'i lleoli yn Ysbyty Singleton - Ward 16.
Mae staff yr uned yn fedrus wrth reoli cymhlethdodau beichiogrwydd cynnar, gan gynnwys sganio uwchsain.
Mae'r gwasanaeth o fudd mawr i gleifion gan ei fod yn helpu i leihau derbyniadau diangen i'r ysbyty.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.