Neidio i'r prif gynnwy

Triniaethau Colposgopi

Mae colposgopi yn brawf i edrych yn agosach ar eich ceg y groth ac fel arfer caiff ei gynnal mewn clinig ysbyty. Mae'n cymryd tua 15-20 munud, a gallwch fynd adref yn fuan wedyn.

Cynhelir cleifion allanol colposgopi yn:

Ysbyty Castell-nedd Port Talbot – Ystafell Colposgopi, Llawr 2

Ffôn: 01639 826115

Ysbyty Singleton - Ystafell Colposgopi, Ward 17, Bloc Ward y Gorllewin (Uned Mamolaeth), Lefel 3

Ffôn: 01792 286868

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.