Neidio i'r prif gynnwy

Menopos

Yr arwydd cyntaf o'r menopos fel arfer yw newid ym mhatrwm arferol eich mislif.

Efallai y byddwch chi'n dechrau cael mislif anarferol o ysgafn neu'n anarferol o drwm. Gall amlder eich mislif gael ei effeithio hefyd. Efallai y byddwch chi'n eu cael bob pythefnos neu dair wythnos, neu efallai na fyddwch chi'n eu cael am fisoedd ar y tro. Yn y pen draw, byddwch chi'n rhoi'r gorau i gael mislif yn gyfan gwbl.

Os ydych chi'n cael trafferth rheoli symptomau eich Menopos, gallwch gysylltu â'ch meddyg teulu, a all ragnodi rhai triniaethau i helpu i reoli'ch symptomau.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.