Pwrpas yr ymarferion hyn yw hyfforddi disgiau cymalau'r ên i ymddwyn yn normal a symud i'w safle cywir yn unig. Byddant hefyd yn helpu i gael gwared ar sbasmau cyhyrau ac ystum anffafriol yr ên. Mewn llawer o achosion, bydd hyn yn unig yn datrys eich symptomau.
Wrth wneud yr ymarferion uchod, os yw eich gên yn boenus efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi orwedd i lawr neu eistedd yn gyfforddus a rhoi cynhesrwydd rhagarweiniol gyda photeli dŵr poeth i gymalau'r ên ac ochrau eich wyneb am tua 5 munud cyn dechrau eto.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.