Mae'r crwner yn swyddog annibynnol sydd â'r cyfrifoldeb statudol dros ymchwilio'n gyfreithiol i rai categorïau o farwolaethau. Fel arfer, mae'r crwner yn gyfreithiwr o ran cefndir, ac mae'n cael ei gefnogi gan dîm o swyddogion y crwner, sy'n ymchwilio i unrhyw farwolaethau a gyfeirir at y crwner.
Fel arfer, mae'r crwner yn ymwneud ag unrhyw farwolaethau sydd -
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr, ac mae yna lawer o resymau eraill hefyd pam y gallai meddyg gyfeirio marwolaeth at y crwner. Os bu farw eich perthynas/ffrind yn yr ysbyty, bydd y tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth yn gallu eich cynghori a oes atgyfeiriad wedi'i wneud at y crwner, a gallwch hefyd siarad â'r swyddog archwilio meddygol hefyd.
Unwaith y bydd y crwner wedi derbyn yr atgyfeiriad, bydd un o swyddogion y crwner yn cysylltu â chi o fewn diwrnod neu ddau i drafod yr atgyfeiriad gyda chi a gwrando ar unrhyw safbwyntiau a allai fod gennych. Byddant yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y broses grwnerol, eich cynghori ar y camau nesaf a'ch cefnogi.
Os yw'r crwner yn fodlon bod y farwolaeth oherwydd achosion naturiol, byddant yn awdurdodi'r meddyg i fwrw ymlaen ag ysgrifennu'r Dystysgrif Achos Meddygol Marwolaeth. Mae hyn yn golygu na fydd angen ymchwiliad pellach i farwolaeth eich perthynas/ffrind, a gallwch fwrw ymlaen â chofrestru ar ôl i'r dystysgrif gael ei chwblhau gan y meddyg a'i llofnodi gan yr archwiliwr meddygol. Gall y tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth hefyd eich helpu i lywio'r broses hon.
Weithiau, gall y crwner deimlo bod angen ymchwiliad pellach, a gall yr ymchwiliad hwn gynnwys Cwest. Pan fydd hyn yn digwydd, ni fydd angen i'r meddyg gyhoeddi'r Dystysgrif Achos Meddygol Marwolaeth mwyach a bydd swyddfa'r crwner yn cymryd drosodd bob agwedd ar y gwaith papur sy'n ymwneud â'r farwolaeth.
Mae cwest yn wrandawiad llys cyhoeddus a gynhelir gan y crwner i benderfynu pwy fu farw, sut, pryd a ble y digwyddodd y farwolaeth. Gall hyn fod gyda neu heb yr angen am archwiliad post mortem o'ch perthynas/ffrind.
Bydd swyddogion y crwner yn egluro'n glir i chi beth sy'n digwydd nesaf ac yn egluro'r weithdrefn os bydd hyn yn digwydd, yn ogystal â thrafod gyda chi benderfyniad y crwner ynghylch a oes angen archwiliad post mortem.
Rhif cyswllt swyddfa'r crwner yw 01792 450650.
Gall mynd trwy gwest fod yn ofidus ac yn gymhleth ar adeg sydd eisoes yn anodd i chi a'ch teulu. Os oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch yn ystod y broses hon, mae ein tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth ar gael i'ch helpu i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.