Neidio i'r prif gynnwy

Llesiant Platfform

Mae gwasanaeth Gofal Ar ôl Marwolaeth Bae Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â Llesiant Platfform, i ddarparu cefnogaeth barhaus ar ôl galar. Mae Llesiant Platfform yn gweithio gyda phobl a sefydliadau sy'n darparu therapïau siarad a chefnogaeth lles.

Gall cefnogaeth broffesiynol fynd yn bell i'ch helpu i ymdopi yn ystod cyfnodau anodd. Diolch i gyllid gallwn ddarparu:

  • Cwnsela: 6 sesiwn y gellir eu hymestyn mewn rhai amgylchiadau. Ar gael ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn Abertawe neu Gastell-nedd. Gallwn hefyd gynnig cwnsela yn y Gymraeg.
  • Grwpiau cymorth: Mae'r rhain yn cynnig lle diogel a chroesawgar i bobl gysylltu, rhannu profiadau a darparu cymorth pellach. Boed yn grŵp teuluol, cymorth gan gymheiriaid neu grŵp newydd yn seiliedig ar anghenion y gymuned, rydym yn creu mannau lle gall pobl ddod at ei gilydd. Wedi'i leoli yn Abertawe a Chastell-nedd.

Mae gwasanaethau ar gael i bobl yng Nghymru, gan gynnwys plant o 11 oed ymlaen.

Rheolir atgyfeiriadau drwy wasanaeth Gofal ar ôl Marwolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.