Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth a redir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac mae'n wasanaeth sy'n eich galluogi i roi gwybod am farwolaeth i'r rhan fwyaf o sefydliadau'r llywodraeth ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys y DVLA, y Swyddfa Basbort, holl wasanaethau'r Awdurdod Lleol, holl wasanaethau'r DWP, fel Pensiynau'r Wladwriaeth neu Gymhorthdal Incwm, ac unrhyw wasanaethau CThEM (Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi).
Ar adeg y cofrestru, gall y cofrestrydd roi rhif cyfeirnod unigryw i chi a fydd yn cael ei ddefnyddio i hysbysu gwahanol adrannau'r llywodraeth a'r awdurdod lleol am y farwolaeth. Bydd y cofrestrydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi yn eich apwyntiad.
Gallwch naill ai ffonio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith neu lenwi ffurflen ar-lein, ond rhaid gwneud hyn o fewn 28 diwrnod i gael eich rhif cyfeirnod unigryw gan y cofrestrydd. I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, bydd angen y canlynol arnoch:
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.