'Nid anhwylder, clefyd nac arwydd o wendid yw galar. Mae'n angenrheidrwydd emosiynol, corfforol ac ysbrydol, y pris rydych chi'n ei dalu am gariad. Yr unig iachâd ar gyfer galar yw galaru.' - Earl Grollman
Gall marwolaeth fod yn brofiad gofidus iawn ac mae galaru yn ymateb dynol normal i golled neu farwolaeth. Gall galaru effeithio ar bobl mewn sawl ffordd wahanol, ac mae pobl yn teimlo llawer o bethau gwahanol. Mae'n brofiad unigryw a phersonol, ac nid oes ffordd gywir nac anghywir o deimlo pan fyddwch chi'n galaru.
Gall yr elfennau a'r tasgau ymarferol i'w gwneud yn dilyn marwolaeth gymryd drosodd a chymryd llawer o'ch amser yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf. Gall hyn ymddangos yn llethol ar adegau tra byddwch chi'n galaru, neu i'r gwrthwyneb efallai y byddwch chi'n canfod na fydd eich galar yn eich 'taro' yn llawn' nes bod yr holl bethau ymarferol wedi'u gwneud.
P'un a oes angen cymorth arnoch yn gynnar yn eich galar neu'n ddiweddarach, gall y tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth eich helpu i'ch cefnogi. Nid cwnselwyr yw'r tîm, ond maent wedi'u hyfforddi mewn cymorth galar ac yn gweithio gydag ystod eang o bobl a phartïon i'ch helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Mae rhai o'r bobl y mae'r tîm yn gweithio gyda nhw wedi'u rhestru ar dudalen 'Cymorth pellach' yr adran wefan hon, ac mae rhif cyswllt y tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth ar hafan yr adran hon.
Byddwch yn ymwybodol nad yw'r tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth yn gallu darparu cymorth 'argyfwng' ac nid ydynt yn darparu llinell gymorth 24 awr. Os ydych chi'n teimlo bod angen i chi siarad â rhywun ar frys, gallwch ffonio unrhyw un o'r opsiynau cymorth isod:
GIG Cymru 111 Opsiwn 2
Y Samariaid 116 123
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.