Neidio i'r prif gynnwy

Cynllunio angladdau ac amserlenni

Bydd pawb yn y broses ardystio marwolaeth yn cydweithio i sicrhau y gellir cofrestru marwolaeth cyn gynted â phosibl ac i osgoi oedi lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, gall materion fel mynediad at gofnodion meddygol, cyswllt â theuluoedd, gofynion tymhorol ac ymchwiliad pellach gan y crwner effeithio ar amseroldeb.

Y nod yw cwblhau ardystio marwolaeth o fewn naw diwrnod. Fodd bynnag, nodwch y gall hyn gymryd mwy o amser mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft lle mae achos y farwolaeth yn gymhleth, neu lle nad yw gwybodaeth a phersonau allweddol ar gael mor gyflym ag sydd eu hangen.

Gall cynllunio angladd ddechrau cyn cofrestru'r farwolaeth a gallwch siarad â threfnydd angladdau i ddechrau gwneud trefniadau. Bydd gan bob trefnydd angladdau ei bolisïau a'i weithdrefnau cwmni ei hun a byddant yn fwy na pharod i'ch helpu ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am eu rôl a'r gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.