Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestru marwolaeth

Delwedd o flodau porffor a glöyn byw porffor.

Unwaith y bydd y meddyg wedi cwblhau'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth, a bod yr archwiliwr meddygol wedi'i llofnodi, byddwch wedyn yn gallu cofrestru marwolaeth eich perthynas/ffrind.

Bydd y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth yn cael ei hanfon yn electronig at y cofrestrydd ar eich rhan gan y gwasanaeth archwilio meddygol. Os yw eich perthynas/ffrind wedi marw yn yr ysbyty, bydd tîm y gwasanaeth Gofal Ar ôl Marwolaeth yn eich hysbysu pryd y bydd hyn wedi'i wneud. Os yw eich perthynas/ffrind wedi marw yn y gymuned, dylai'r feddygfa allu eich hysbysu pryd y bydd hyn wedi'i wneud, neu gallwch gysylltu â'r tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth a all gysylltu â'r meddyg teulu ar eich rhan.

Bydd yr apwyntiad gyda'r cofrestryddion yn digwydd yn Swyddfa Gofrestru Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau, a bydd yn y swyddfa yn yr awdurdodaeth lle bu farw eich perthynas/ffrind. Os bu farw yn Abertawe, er enghraifft, bydd angen i chi gofrestru'r farwolaeth yn Swyddfa Gofrestru Abertawe.

Bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi am-

  • dyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • enw llawn a chyfenw'r ymadawedig (a'r cyfenw morwynol os oedd yr ymadawedig yn fenyw briod/partner sifil)
  • y dyddiad a'r lle geni
  • galwedigaeth yr ymadawedig ac, os oedd yr ymadawedig yn briod neu mewn partneriaeth sifil, enw llawn a galwedigaeth ei briod neu ei bartner sifil
  • eu cyfeiriad arferol
  • dyddiad geni priod neu bartner sifil sy'n goroesi
  • manylion unrhyw bensiwn sector cyhoeddus e.e. y gwasanaeth sifil, athro neu'r lluoedd arfog.

Os oes gennych chi nhw, byddai'n ddefnyddiol mynd â thystysgrif geni, tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil a cherdyn meddygol y GIG, neu lythyr ysbyty diweddar gyda'r rhif GIG, eich perthynas/ffrind gyda chi.

Efallai y bydd angen i chi hefyd fynd â'ch dogfennau adnabod eich hun gyda chi, fel-

  • Pasbort/trwydded yrru/tystysgrif geni
  • Prawf o gyfeiriad (fel bil cyfleustodau neu ddatganiad banc)

Bydd y cofrestryddion yn eich tywys gam wrth gam drwy'r broses gofrestru, ac ar ddiwedd eich apwyntiad byddwch yn cael copïau ardystiedig o'r Dystysgrif Achos Marwolaeth, a elwir weithiau'n 'dystysgrif marwolaeth'. Yn aml, mae angen y Dystysgrif Achos Marwolaeth at ddibenion cyfrifon banc, at ddibenion yswiriant, neu unrhyw ddiben ariannol neu gyfreithiol arall, felly mae'n aml yn werth prynu rhai copïau os oes angen - ni fydd y rhan fwyaf o leoedd yn derbyn llungopi, dim ond copi gwreiddiol. Gallwch brynu copïau swyddogol ar adeg eich apwyntiad gyda'r cofrestrydd.

Bydd y cofrestrydd hefyd yn cyhoeddi 'Ffurflen Werdd'. Enw swyddogol y ffurflen hon yw'r Dystysgrif Claddu neu Amlosgi. Bydd y cofrestrydd yn anfon y ffurflen hon yn electronig at eich trefnydd angladdau.

Mae dwy swyddfa gofrestru yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

  • Cofrestryddion Abertawe , Swyddfa Gofrestru, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN.

Byddwch yn ymwybodol y bydd eich manylion cyswllt wedi'u darparu i gofrestrydd Abertawe, a byddant yn cysylltu â chi yn y lle cyntaf i drefnu apwyntiad. Os bydd angen i chi gysylltu â nhw, eu rhif yw 01792 636188.

Mae rhagor o wybodaeth am gofrestru marwolaethau yn Abertawe ar gael drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Cyngor Abertawe.

  • Cofrestryddion Castell-nedd Port Talbot , Swyddfa Gofrestru, Heol Forster, Castell-nedd, SA11 3BN.

 

Byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi gysylltu â chofrestrydd Castell-nedd i wneud apwyntiad ar ôl i'r meddyg gwblhau'r Dystysgrif Achos Meddygol Marwolaeth. Eu rhif cyswllt yw 01639 760021.

Mae rhagor o wybodaeth am gofrestru marwolaethau yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gael drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.