Bydd clinigwr cymwys (er enghraifft meddyg, nyrs neu barafeddyg) yn gwirio bod y person wedi marw. Gall sut mae hyn yn digwydd ddibynnu ar leoliad y person ar adeg y farwolaeth. Yna bydd meddyg sydd wedi'u gweld yn ystod bywyd yn cyfeirio'r farwolaeth naill ai at Grwner Ei Fawrhydi i'w ymchwilio, neu at Wasanaeth Archwilwyr Meddygol Cymru i'w archwilio'n annibynnol.
Mae sawl rheswm pam y gallai fod angen cyfeirio marwolaeth at y crwner a'i hymchwilio ganddo, gan gynnwys damweiniau, trawma, hunan-niweidio neu lle nad yw achos y farwolaeth yn hysbys. Nid oes angen cyfeirio'r rhan fwyaf o farwolaethau at y crwner, a hyd yn oed pan fo angen hysbysu'r crwner, nid yw hyn bob amser yn golygu bod problem neu fod angen post-mortem.
Os nad oes angen cyfeirio'r farwolaeth at y crwner, rhaid i'r meddyg ddrafftio Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth a'i hanfon, ynghyd â manylion y perthynas agosaf a chopïau o'r nodiadau meddygol at y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol.
Fe welwch ragor o wybodaeth am y crwner a'r Gwasanaeth Archwiliwr Meddygol ar ein tudalennau gwe eraill.
Bydd y Tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth yn cefnogi ac yn cynorthwyo gyda'r gwaith papur angenrheidiol ac yn cysylltu â phobl eraill sydd fel arfer yn gysylltiedig yn dilyn marwolaeth, fel y cofrestrydd, yr archwiliwr meddygol neu swyddfa'r crwner.
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â'r tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth ar 01792 703114 a byddant yn egluro beth sy'n digwydd nesaf o ran y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth, a elwir weithiau'n 'Dystysgrif Marwolaeth' neu'n 'Dystysgrif Feddygol'.
Bydd y tîm yn gofyn i chi:
Byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i'r tîm a byddant yn gallu eich cefnogi. Gallwch ffonio'r tîm gynifer o weithiau ag y dymunwch, a byddant yn cadw mewn cysylltiad â chi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith papur. Gallant hefyd eich cynghori ar eiddo eich perthynas/ffrind os oes angen.
Unrhyw adeg y bydd rhywun rydyn ni'n ei garu yn marw, gallwn ni deimlo'n llethol yn aml ac efallai y byddwch chi'n teimlo ei bod hi'n anodd ymdopi â sut rydych chi'n teimlo. Os ydych chi'n teimlo fel hyn, gall y tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth eich helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir yn ystod eich profedigaeth, felly siaradwch â'r tîm os ydych chi'n meddwl y byddai hyn o gymorth i chi.
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, fel arfer meddyg teulu'r claf fyddai'n cwblhau'r Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth pan fydd rhywun yn marw gartref neu mewn cartref preswyl/gofal. Os ydych chi'n gwybod pwy yw meddyg teulu eich perthynas/ffrind, gallwch gysylltu â nhw i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith papur.
Os yw'r farwolaeth yn sydyn, yn annisgwyl neu os nad yw eich perthynas/ffrind wedi cael ei weld yn ddiweddar gan ei feddyg teulu, efallai y bydd swyddfa'r crwner yn gysylltiedig. Efallai y bydd y meddyg teulu neu'r heddlu (os ydynt yn bresennol) yn gallu eich cynghori ar hyn. Mae rhagor o wybodaeth am rôl crwner ar gael ar ein tudalennau gwe.
Fodd bynnag, gall y tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth eich helpu yn y naill amgylchiad neu'r llall, os ydych chi'n teimlo bod angen unrhyw gefnogaeth arnoch chi. Gallwch gysylltu â nhw ar: 01792 703114.
Gall y tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth gysylltu â'r Meddyg Teulu neu'r crwner ar eich rhan, a'ch diweddaru ar gynnydd y gwaith papur, yn ogystal â chysylltu â phobl eraill sydd fel arfer yn gysylltiedig yn dilyn marwolaeth, fel y cofrestrydd neu'r archwiliwr meddygol.
Bydd y tîm yn gofyn i chi-
Byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i'r tîm a byddant yn gallu eich cefnogi. Gallwch ffonio'r tîm gynifer o weithiau ag y dymunwch, a byddant yn cadw mewn cysylltiad â chi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith papur os ydynt yn eich cefnogi gyda hyn.
Unrhyw adeg y bydd rhywun rydyn ni'n ei garu yn marw, gallwn ni deimlo'n llethol yn aml ac efallai y byddwch chi'n teimlo ei bod hi'n anodd ymdopi â sut rydych chi'n teimlo, yn enwedig os oedd y farwolaeth yn sydyn neu'n annisgwyl. Os ydych chi'n teimlo fel hyn, gall y tîm Gofal Ar ôl Marwolaeth eich helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir yn ystod eich profedigaeth, felly siaradwch â'r tîm os ydych chi'n meddwl y byddai hyn o gymorth i chi.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.