Neidio i'r prif gynnwy

Adborth

Delwedd o flodau porffor a glöyn byw porffor.

Yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, rydym yn deall yn iawn pa mor anodd y gall hyn fod i chi a'ch teulu, ond fel sefydliad rydym yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawr, da neu ddrwg. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu'r gefnogaeth gywir i chi yn ystod eich profedigaeth ac yn darparu'r gwasanaeth gorau y gallwn.

  1. A allech chi ddweud wrthym ble a pha ddyddiad y bu farw eich perthynas/ffrind?
  2. O'n gwasanaeth Gofal Ar ôl Marwolaeth, a oedd unrhyw beth yn arbennig o ddefnyddiol i chi yn ystod yr amser anodd hwn?
  3. O'n gwasanaeth Gofal Ar ôl Marwolaeth, a oedd unrhyw beth nad oedd o gymorth i chi yn ystod yr amser anodd hwn?
  4. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut y gallwn wella ein gwasanaeth i berthnasau/ffrindiau sydd wedi colli rhywun.

Gallwch gyflwyno eich adborth/atebion yn ysgrifenedig i:

Kimberley Hampton-Evans,

Rheolwr Gwasanaeth Gofal Ar ôl Marwolaeth,

Gwasanaeth Gofal Ar ôl Marwolaeth,

Ysbyty Treforys,

Heol Maes yr Eglwys,

Abertawe,

SA6 6NL.

Fel arall, gallwch hefyd gyflwyno eich adborth drwy ffurflen adborth ar-lein.

I roi adborth i'r Gwasanaethau Profedigaeth, dilynwch y ddolen hon i lenwi'r ffurflen adborth ar-lein ar Microsoft Forms.

Diolch i chi am gymryd yr amser i roi eich adborth i ni, rydym yn ei werthfawrogi'n fawr.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.