Fy rôl i - Rwy'n cefnogi'r clinigwyr yn y tîm sy'n cynnal asesiadau ac yn darparu ymyriadau i blant ag anabledd dysgu ac sy'n arddangos ymddygiadau heriol. Rwy'n gweithio yng nghartref y teulu, yn yr ysgol ac mewn gwasanaethau seibiant. Rwyf hefyd wedi helpu i ddatblygu adnoddau digidol addysgol ar gyfer ein teuluoedd.
Profiad blaenorol - Rwyf wedi gweithio ym maes ymddygiad heriol erioed, yn gyntaf mewn cartref plant diogel ac yna mewn gwasanaethau seibiant i blant ag anableddau. Yno y daeth yn ymwybodol o Wynebu'r Her, gan gydweithio i gefnogi un o ddefnyddwyr ein gwasanaeth. Roeddwn i'n gwybod bryd hynny mai dyma'r gwasanaeth yr oeddwn am fod yn rhan ohono.
Hobïau a diddordebau - Dw i wrth fy modd yn yr awyr agored, rhedeg neu gerdded fy nghŵn ar y traeth. Dw i wrth fy modd yn darllen, mynd i wyliau a threulio amser gyda fy nheulu.
Cefndir addysg - Mae gen i radd mewn seicoleg gyda throseddeg a gradd meistr mewn seicoleg iechyd.