Neidio i'r prif gynnwy

Uned Treforys yn llwyddo i gael pobl oedrannus adref

Nyrs yn dal arwydd

Gall cael eich dwyn i Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys ar ôl cwympo fod yn brofiad dryslyd ac anniddig i bobl oedrannus.

Felly mae “adran achosion brys fach” bwrpasol ar eu cyfer wedi agor yn y brif adran fel rhan o gynllun newydd a lansiwyd y mis diwethaf.

Prif lun uchod: Uwch Ymarferydd Nyrsio Tricia Quinn, a greodd yr arwydd ar gyfer yr uned newydd 

Datblygwyd yr uned gan y Gwasanaeth Asesu Pobl Hŷn, sy'n ceisio cael cleifion oedrannus adref, yn hytrach nag i mewn i'r ysbyty.

Mae'r Gwasanaeth Asesu Pobl Hŷn (OPAS) yn wasanaeth amlddisgyblaethol a sefydlwyd ym mis Ebrill 2018, ac mae'n cynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n arbenigo mewn gofalu am bobl hŷn. Y person y tu ôl i'w sefydlu oedd y Geriatregydd Ymgynghorol Arweiniol, Dr Liz Davies.

Yn y gorffennol, roedd tîm OPAS yn gweld cleifion ar ôl iddynt gael eu gweld yn y brif Adran Achosion Brys, gan eu cyfeirio ymlaen pan oedd hynny'n briodol.

Nawr mae'r tîm yn gweithio fel rhan o'r Adran Achosion Brys gan weld cleifion 65 oed a hŷn y mae angen gofal geriatreg cymhleth arnynt.

Esboniodd Metron Ysbyty Treforys, Clare Tregidon: “Nid yw'r Adran Achosion Brys yn amgylchedd priodol ar gyfer y cleifion hyn.

“Yn aml maen nhw yno am gyfnod rhy hir. Mae'n brofiad dryslyd ac anniddig, ac nid dyna'r lle iawn iddyn nhw fod.

“Mae'r uned newydd yn llawer tawelach. Mae'r goleuadau'n iawn. Gall y staff hyd yn oed chwarae cerddoriaeth i helpu'r cleifion i ymlacio.

Grŵp o staff yn gwisgo masgiau yn yr ardal aros “Nid yn unig mae'n well i’r cleifion, ond mae’n tynnu peth o’r pwysau oddi ar y brif Adran Achosion Brys - mae wedi cael effaith enfawr.”

Chwith - rhai o dîm OPAS yn yr ardal aros yr uned newydd. Gweler diwedd y dudalen am y pennawd llawn.

Dan arweiniad yr Uwch Ymarferwyr Nyrsio Catherine Beynon-Howells a Tricia Quinn, mae OPAS yn wasanaeth amlddisgyblaethol sy'n cynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n arbenigo mewn gofalu am bobl hŷn.

Mae'r rhan fwyaf o'r cleifion wedi cwympo, er bod y tîm hefyd yn gweld rhai â chyflyrau eraill, fel rhai sydd wedi colli symudedd neu wybyddiaeth.

Meddai Catherine: “Pan fyddan nhw'n dod i'r Adran Achosion Brys, maen nhw'n cael eu hasesu wrth y drws ffrynt. Bydd y nyrs brysbennu yn nodi categori'r claf ac mae naill ai Tricia neu fi'n eu derbyn o dan ein gofal.

“Maen nhw'n dod i'r uned ac rydyn ni'n cynnal profion amrywiol ac yn aros am y canlyniadau, ac yna bydd Uwch Glinigydd yn eu gweld.

“Rydyn ni hefyd yn cynnal asesiad geriatreg llawn, sy'n bwysig iawn i'r cleifion hyn.”

Mae'r asesiad hwn yn edrych ar eu hanes, amgylchedd eu cartref, pa gymorth y gallai fod ei angen arnynt i aros gartref, ac adolygiad o'u meddyginiaeth.

Dywedodd Tricia: “Efallai eu bod wedi cael eu rhoi ar feddyginiaeth 20 mlynedd yn ôl ac nid yw hynny erioed wedi cael ei adolygu.

“Efallai ei fod yn briodol bryd hynny ond nid yw’n briodol nawr, ac efallai mai dyna sydd wedi achosi iddynt ddod i’r ysbyty.

Dwy nyrs a meddyg yn ardal aros yr ysbyty “Gallwn gael gwared ar y feddyginiaeth honno, neu gallwn gyflwyno meddyginiaeth y dylent fod arni.

Uwch Ymarferwyr Nyrsio Catherine Beynon-Howells a Tricia Quinn gyda Dr Isabel Wissenbach (canol)

“Yn dilyn hyn, byddwn yn eu gweld yn ein clinig cwympiadau ac yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i'w cadw gartref yn hytrach na'u hanfon i gartrefi nyrsio - dyna lle byddent yn y pen draw pe byddent yn dod i'r ysbyty.”

Mae'r uned ar agor 8yb-4yp. Ar wahân i'r ddwy Uwch Ymarferydd Nyrsio, mae tîm OPAS yn cynnwys Geriatregwyr Ymgynghorol, Arbenigwyr Nyrsio Clinigol, Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol ac eraill.

Dywedodd Dr Isabel Wissenbach, Arbenigwr Cyswllt ar gyfer Meddygaeth Geriatreg: “Trwy osgoi’r brif Adran Achosion Brys a dod yma'n syth, mae cleifion yn cael eu gweld yn gyflymach a gellir eu hanfon i’r lle cywir.

“Os oes angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty, maen nhw'n mynd i Ward D yn Nhreforys, i Orseinon neu Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, neu i Bonymaen.

“Ond mae’r mwyafrif ohonyn nhw, tua 80 y cant, yn cael eu rhyddhau adref, naill ai gyda’u gofal newydd neu eu gofal presennol, neu gyda ffisiotherapi, therapi galwedigaethol neu gyda gofal dilynol gan y gwasanaethau cymdeithasol.

“Gallwn gyrchu’r timau clinigol acíwt yn Abertawe ac yng Nghastell-nedd Port Talbot.

“Felly mae gwasanaethau eang ar gael i gleifion oedrannus er mwyn eu cadw allan o'r wardiau yma, lle nad oes angen iddyn nhw fod.

“Hefyd, trwy wneud asesiad trylwyr, sef asesiad nad oes gan staff yr Adran Achosion Brys yr amser i'w wneud, gobeithio y gallwn eu hatal rhag cwympo eto a gorfod cael eu haildderbyn."

Yn ogystal â'r rhai sy'n cael eu brysbennu wrth y drws ffrynt, mae'r tîm hefyd yn gweld cleifion sydd wedi bod yn yr Adran Achosion Brys i gael triniaeth, efallai am iddynt dorri asgwrn, ac sydd wedyn yn cael eu cyfeirio ymlaen gan fod hefyd angen gofal geriatreg arbenigol arnynt.

Cafodd uned OPAS ei rhedeg fel peilot i ddechrau ond roedd mor llwyddiannus fel ei bod wedi parhau, er nad yw'r cynlluniau tymor hir wedi'u cwblhau eto.

Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod y gwasanaeth y mae OPAS a'r uned newydd yn ei ddarparu yn un hanfodol.

Dywedodd y Metron Clare: “Mae angen i rai cleifion fod yma. Ond pan nad oes angen hynny arnynt, rydym yn llwyddo i'w cael adref.

“Mae'n llawer gwell iddyn nhw. Maen nhw'n oedrannus. Nid ydym am iddynt ddirywio mewn gwely yn yr ysbyty. Rydyn ni am eu cefnogi i fynd yn ôl adref, a dyna lle maen nhw eisiau bod. ”

 

Mae'r ail lun yn dangos (blaen): Daniel Greenwell, Fferyllydd, a'r Ffisiotherapydd Arbenigol Chad Collins; (canol) Catherine Beynon-Howells, Uwch Ymarferydd Nyrsio, Maria Sykes, Nyrs Glinigol Arbenigol, Sian Shreves, Technegydd Therapi Galwedigaethol; (cefn) Therapydd Galwedigaethol Georgia Owens, Tricia Quinn, Uwch Ymarferydd Nyrsio, Dr Isabel Wissenbach, Geriatregydd Ymgynghorol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.