Neidio i'r prif gynnwy

DEDDF OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS (CYMRU) 2019

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

DEDDF OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS

(CYMRU) 2019

Hysbysiad yn unol ag adran 24(3) o'r Ddeddf uchod.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i gwyn ac wedi canfod methiant gwasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Canfu’r Ombwdsmon fethiannau yn ymwneud â’r ffordd y rheolwyd arhosiad y claf am lawdriniaeth. Yn benodol, y collwyd cyfle i’r claf gael llawdriniaeth orthopedig, o ganlyniad i ailosod cloc y rhestr aros yn amhriodol a diffyg cyfathrebu â’r claf mewn perthynas â hyn.

Hoffai'r Bwrdd Iechyd ymddiheuro'n gyhoeddus am y methiannau a nodwyd ac am y gofid a achoswyd i'r claf. Gwnaed nifer o argymhellion i'r Bwrdd Iechyd gan yr Ombwdsmon, sydd wedi cael eu derbyn yn llawn a byddant yn cael eu gweithredu o fewn yr amserlenni penodedig.

Bydd copi o adroddiad yr Ombwdsmon ar ganlyniadau ei ymchwiliad ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd ac i'w archwilio gan y cyhoedd, yn ddi-dâl, yn ystod oriau gwaith arferol, ym Mhencadlys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, 1 Porthfa Talbot, Port Talbot, SA12 7BR am gyfnod o 3 wythnos o 27 Tachwedd 2025, i unrhyw un sy'n dymuno cael copi o'r adroddiad hwn neu gymryd dyfyniadau ohono. Darperir llungopïau o'r adroddiad neu rannau ohono yn am ddim ar gais.

ABIGAIL HARRIS

PRIF WEITHREDWR

Ewch i adroddiad llawn yr Ombwdsmon.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.