Fe’ch gwahoddir i gyfarfod cyffredinol blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar 14eg Awst 2023 am 2pm.
Cynhelir y cyfarfod yn rhithiol a chaiff ei ffrydio’n fyw ar ein tudalen YouTube.
Dilynwch y ddolen hon i'n sianel YouTube.
Os hoffech ofyn cwestiwn, a wnewch chi ei anfon ymlaen llaw at sbu.boardservices@wales.nhs.uk erbyn 9fed Awst 2023. Mae croeso i chi gyflwyno eich cwestiwn yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.