Mae mam o Abertawe ar y trywydd iawn i gyflawni ei swydd ddelfrydol diolch i gwrs prifysgol newydd.
Mae Clare Rice (yn y llun uchod) wedi bod â’r uchelgais o ddod yn therapydd galwedigaethol sy’n gweithio gyda phobl hŷn ers tro byd, ond cynllwyniodd ei hamgylchiadau personol i'w hatal rhag gwneud hynny.
Gwraidd ei phroblem oedd mynychu un o ddim ond dwy brifysgol yng Nghymru sy’n cynnig yr hyfforddiant angenrheidiol – sef Caerdydd a Bangor – tra’n magu ei mab.
Profodd y dasg yn afrealistig.
Yn lle hynny mae Clare wedi gweithio am y blynyddoedd diwethaf fel technegydd therapi galwedigaethol – rôl gynorthwyol – yn Nhŷ Garngoch yng Ngorseinon, lle mae hi o leiaf wedi gallu helpu demograffeg y mae hi’n wirioneddol angerddol amdani.
Mae hynny i gyd ar fin newid, fodd bynnag, gan fod y fenyw 32 oed wedi cofrestru ar y cwrs BSc cyntaf mewn therapi galwedigaethol ym Mhrifysgol Abertawe.
Dywedodd: “Rydw i wedi eisiau bod yn therapydd galwedigaethol ers amser maith ond roedd fy ymrwymiadau personol yn golygu na allwn i ddim cymudo i Gaerdydd, neu Fangor, ond nawr mae'r cwrs ar gael yn Abertawe mae'n gaffaeliad gwirioneddol.
“Rwy'n fam sengl ac mae'n rhaid i mi ofalu am fy machgen. Fyddwn i ddim wedi gallu ymrwymo i deithio yn ôl ac ymlaen.”
Mae Clare wedi dewis astudio ar gyfer ei newid gyrfa yn rhan-amser dros bedair blynedd, a fydd yn caniatáu iddi barhau yn ei rôl bresennol.
Meddai: “Mae fy mab ychydig yn hŷn nawr ac rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth foesol sydd gennyf gan fy ffrindiau a fy nheulu. Mae fy nghydweithwyr a rheolwyr hefyd wedi bod yn gefnogol iawn ac rwy’n teimlo'n ffodus i gael eu cefnogaeth i wneud hyn dros y pedair blynedd nesaf.
“Rwy'n dal i weithio ond mae fy oriau wedi'u lleihau – rwy'n ffodus iawn fy mod wedi cael cyllid i ddilyn y cwrs hwn.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her. Rydyn ni ychydig wythnosau i mewn i'r cwrs nawr - fe ddechreuodd ar 19 Medi - ac mae'n mynd yn dda iawn. Rwy'n gyffrous iawn.
“Byddwn yn dweud wrth unrhyw un sy’n ystyried cam o’r fath i fentro a bod yn ddewr. Ewch ymlaen a dilyn eich breuddwydion.”
Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio i rymuso pobl i ddatblygu, cynnal neu wella ystod amrywiol o weithgareddau sy'n berthnasol ac yn ystyrlon yn eu bywydau bob dydd, o hunanofal sylfaenol yn y cartref i weithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith, diddordebau a mwy.
Dywedodd Clare, sy’n rhan o Dîm Iechyd Meddwl Pobl Hŷn yr ysbyty: “Rwy’n caru fy swydd. Gallu grymuso pobl – eu lles a’u hiechyd corfforol drwy hybu annibyniaeth.
“Mae'n unigol iawn o ran sut rydyn ni'n cefnogi pobl, yn edrych ar y gweithgareddau a'r bywyd bob dydd, a beth sy’n bwysig iddyn nhw. Mae'n helpu pobl i gael mynediad i'w cymuned neu i fod yn fwy hyderus yn eu cartrefi eu hunain.
“Gallwch weithio o amenedigol (geni) hyd at bobl hŷn - mae'n amrywiol iawn.
“Mae gweithio ym maes iechyd meddwl ychydig yn wahanol, rydych chi’n edrych ar yr un sgiliau ond yn ceisio lleihau risgiau cysylltiedig.”
Dywedodd Cerys Owen, rheolwr llinell Clare: “Er ei bod yn berson prysur iawn, yn tri cydbwyso’i gwaith a’i bywyd teuluol, mae Clare yn berson caredig a gofalgar sy’n rhoi 110% i’w chleifion a’i hymrwymiadau gwaith.
“Mae hi’n gwbl haeddiannol o’i llwyddiant yn sicrhau lle yn y brifysgol.
“Mae ei holl gydweithwyr yn nhîm Gofal Sylfaenol Tŷ Garngoch a Thîm Therapi Galwedigaethol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn yn dymuno pob llwyddiant iddi wrth iddi ddechrau ei hyfforddiant i chwifio’r faner werdd dros Therapi Galwedigaethol!”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.