Daeth dros 50 o sefydliadau ynghyd i gynnig cyngor a chefnogaeth yn nigwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ddydd Gwener, Hydref 10.
Cynhaliwyd y digwyddiad am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, ac roedd yn canolbwyntio ar thema eleni, sef Mynediad at wasanaethau – iechyd meddwl mewn trychinebau ac argyfyngau.
Ar agor i staff y bwrdd iechyd a'r cyhoedd, roedd y digwyddiad yn arddangos yr amrywiaeth eang o gefnogaeth iechyd meddwl a lles sydd ar gael yn y gymuned, a ddarperir naill ai gan y bwrdd iechyd neu sefydliadau eraill.
Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau IM&AD, Eve Jeffery: “Roedden ni wrth ein bodd yn gweld cymaint o bobl yn mynychu’r digwyddiad ac yn manteisio ar yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael ar y diwrnod.
“Mae’r stigma o drafod iechyd meddwl yn cael ei chwalu bob blwyddyn, ac rydym am i bobl deimlo hyd yn oed yn fwy cyfforddus yn siarad amdano.
“Mae hynny’n sicr wedi bod yn wir yn ystod y digwyddiad hwn, a oedd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cymorth iechyd meddwl hygyrch yn ystod cyfnodau o argyfwng. Pan fydd trychineb yn digwydd, mae gofal iechyd meddwl yn bwysicach nag erioed.
“Roedden ni wrth ein bodd gyda chefnogaeth sefydliadau lleol a alluogodd y digwyddiad i gynnig ystod eang o gefnogaeth a chyngor.”
Agorwyd y digwyddiad gan Hospital Notes Choir, ac roedd raffl hefyd yn ystod y diwrnod a oedd yn cynnwys gwobrau fel aelodaeth fisol am ddim i JD Gyms Llansamlet; taleb lolfa Croeso gwerth £20 a the prynhawn i ddau yng Nghaffi Cwm Ivy.
Bydd yr holl elw a godir ar y diwrnod yn mynd er budd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn yn ysbytai Tonna a Chefn Coed.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.