Rydym yn cefnogi amrywiaeth o lwybrau i yrfaoedd iechyd a gofal.
Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu Fframwaith Profiad Gwaith newydd ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. Tra bod y fframwaith hwn yn cael ei ddatblygu, gallwn gynnig cyfleoedd profiad gwaith cyfyngedig.
Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu cynnig lleoliadau arsylwi gwaith meddygol neu ddeintyddol, gan gynnwys cysgodi neu arsylwi meddygon neu ddeintyddion, mewn unrhyw faes clinigol. Mae hyn yn berthnasol i bob arbenigedd a lleoliad ar draws y Bwrdd Iechyd.
Yn ystod y cyfnod presennol hwn, mae angen i ymgeiswyr fod dros 18 oed i gael cynnig lleoliad profiad gwaith o fewn BIP Bae Abertawe .
Os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn ac eisiau ymholi am gyfleoedd profiad gwaith anfeddygol, cysylltwch â'n tîm:
E-bost: SBU.workexperience@wales.nhs.uk
Noder bod nifer gyfyngedig o leoedd ar gael, ac nid yw cyflwyno ymholiad yn gwarantu y gellir cynnig lleoliad. Mae'r trefniadau hyn yn destun adolygiad parhaus, a bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru yn unol ag unrhyw newidiadau.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.