Mae Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (YGS) wedi'i gynllunio i ddarparu cefnogaeth ddwys i bobl ifanc ac oedolion rhwng 14 a 25 oed sy'n profi eu pennod gyntaf o seicosis.
Mae'r gair seicosis yn disgrifio cyflwr meddwl lle mae gan berson feddyliau a phrofiadau sydd allan o gysylltiad â realiti.
Mae seicosis yn broblem iechyd meddwl (fel iselder neu bryder), sy'n achosi gofid oherwydd y ffordd y mae'n gwneud i berson deimlo.
Mae profiad pawb o seicosis yn wahanol ond mae rhai symptomau cyffredin. Efallai eich bod wedi profi rhai o'r rhain:
Mae'r gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis yn gweithio gyda phobl ifanc sy'n profi pennod o seicosis.
Mae ymchwil wedi dangos, os yw rhywun yn derbyn cefnogaeth a thriniaeth yn gyflym ar ôl iddynt brofi seicosis, yna maent yn llai tebygol o gael penodau pellach o seicosis.
Gall y gefnogaeth a gewch gan y gwasanaeth hwn eich helpu i wella o'ch pennod seicotig. Gall hefyd eich helpu i leihau effaith penodau seicotig y gallech eu profi yn y dyfodol.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys tîm o weithwyr proffesiynol (gan gynnwys nyrsys, seicolegwyr a seiciatryddion) sydd â llawer o brofiad o weithio gyda phobl â seicosis. Byddwch yn cwrdd â rhywun o'r tîm a fydd yn siarad â chi a'ch teulu am yr hyn rydych chi wedi bod yn ei brofi. Gelwir y person hwn yn gydlynydd gofal.
Gellir derbyn atgyfeiriadau gan wasanaethau iechyd fel CAMHS, CMHT, CRHT, PCMHS, lleoliadau cleifion mewnol neu asiantaethau allanol fel meddygon teulu ac awdurdod lleol.
Ffôn: 01639 862903
E-bost: SBU.EIPService@wales.nhs.uk
Gwasanaeth EIP Bwrdd Iechyd Bae Abertawe
Y Lodge
Ysbyty Tonna
Tonna
Castell-nedd
SA11 3LX
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.