Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl pan fydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu gan y Bwrdd Iechyd ar Borth Cleifion Bae Abertawe (PCBA). Gallwch gysylltu â thîm PCBA ar SBU.PKBProject@wales.nhs.uk os bydd gennych unrhyw gwestiwn ar ôl darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.