Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau

Croeso i dudalen y gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau (GPOOH)

Ewch yn syth at bwy sy'n glaf priodol?

Ewch yn syth i sut i wneud atgyfeiriad a manylion cyswllt.

  • Ble rydyn ni'n gweithio a sut?

Mae’r gwasanaeth MT tu allan i oriau wedi’i leoli yn ysbytai Treforys a Chastell-nedd Port Talbot ac mae ar gael o Ddydd Llun i Ddydd Iau, 6.30yp i 8yb, drwy’r penwythnos rhwng Dydd Gwener am 6.30yp a Dydd Llun am 8yb a gwyliau banc.

Mae'n darparu mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol brys i'r rhai sy'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Dim ond drwy'r rhif ffôn 111 pan fydd eu practis meddyg teulu ar gau y gall y cyhoedd gael mynediad i'r gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau.

Mae 111 yn llinell gymorth a chyngor ffôn 24/7 am ddim a ddarperir gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau bydd unrhyw un sy'n ffonio 111 naill ai'n cael cyngor, yn cael ei drosglwyddo i nyrs i'w frysbennu yn y gwasanaeth 111 neu'n cael ei roi mewn cysylltiad â'r gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau, lle gallant siarad â meddyg teulu.

Yn dilyn asesiad ffôn gan feddyg teulu y tu allan i oriau, bydd y claf naill ai'n cael cyngor, presgripsiwn i'w godi, ymweliad cartref neu apwyntiad wyneb yn wyneb yn un o'r canolfannau y tu allan i oriau.

 

Unrhyw un sy'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sydd angen mynediad brys at wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.

 

Rhaid i gleifion neu'r rhai sy'n galw ar ran anwyliaid ffonio 111. Mae ffonio 111 a dewis opsiwn 2 yn darparu mynediad at gymorth iechyd meddwl brys 24/7.

Gall llinellau fod yn brysur, felly rydym hefyd yn argymell defnyddio'r gwiriwr symptomau 111 ar-lein.Ewch i wefan GIG 111 Cymru i ddefnyddio'r gwiriwr symptomau ar-lein.

(Ar gyfer staff y bwrdd iechyd yn unig: lori.cornelius-evans@wales.nhs.uk )

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.