Croeso i'r dudalen ar gyfer y clystyrau gofal sylfaenol
Mae wyth clwstwr yn cynnwys gwasanaethau contractwyr annibynnol: GMS, GDS, fferylliaeth ac optometreg.
Mae pum clwstwr yn Abertawe: Llwchwr, Iechyd y Bae, Iechyd y Ddinas, Cwmtawe a Phenderi a thri chlwstwr yng Nghastell-nedd Port Talbot: Y Cymoedd Uchaf, Castell-nedd ac Afan.
Mae dau Dîm Adnoddau Cymunedol (CRT), un yn cefnogi Abertawe a'r llall yn cefnogi CNPT.
Mae gwasanaethau a ddarperir ar draws y clystyrau yn cynnwys Nyrsio Ardal (DN), Tîm Clinigol Acíwt (ACT), Meddyg Teulu y tu allan i oriau (GPOOH), ymataliaeth, therapi lleferydd ac iaith, awdioleg, therapi galwedigaethol, gwasanaethau cleifion allanol, ffisiotherapi, iechyd rhywiol, gofal clwyfau, podiatreg, MCAS, nyrsio ysgol a LAC, canolfannau gogledd, gorllewin a chanolog Abertawe ar gyfer DN, Wardiau Rhithwir a Home First.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.