Helpu i lunio dyfodol llawdriniaeth canser gynaecolegol yng Nghymru!
Rydym yn adolygu sut mae llawdriniaeth arbenigol ar gyfer canserau'r groth, yr ofarïau, serfigol, a rhannau eraill o'r system atgenhedlu fenywaidd yn cael ei darparu ar draws De, Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Pam mae hyn yn bwysig?
• Mae angen y gwasanaethau hyn ar oddeutu 1,200 o bobl bob blwyddyn.
• Mae heriau cyfredol yn cynnwys prinder staff, arosiadau hir, a mynediad anghyfartal at dreialon clinigol.
• Ein cynnig yw canoli llawdriniaeth arbenigol yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd, gan gadw diagnosis a gofal dilynol yn lleol.
Bydd eich barn yn ein helpu i ddylunio gwasanaethau diogel, teg a chynaliadwy.
Cwblhewch yr arolwg erbyn 9 Chwefror 2026.
Dilynwch y ddolen hon i rannu eich barn – dim ond ychydig funudau y mae'n ei gymryd!
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.