Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn cydnabod bod gan bawb yr hawl i wybod sut mae gwasanaethau cyhoeddus fel GIG Cymru yn cael eu trefnu a'u rhedeg a faint maen nhw'n ei gostio. Mae gennych chi'r hawl i wybod pa wasanaethau sy'n cael eu darparu, y targedau sy'n cael eu gosod, safonau'r gwasanaethau a ddisgwylir a'r canlyniadau a gyflawnir.
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl i'r cyhoedd gael mynediad at gofnodion a gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus (nid gwybodaeth bersonol fel cofnodion meddygol).
Rhaid gwneud cais am wybodaeth yn ysgrifenedig, er enghraifft, mewn llythyr neu e-bost, gan ddarparu eich enwau a chyfeiriad post neu e-bost i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymateb iddo. Wrth wneud cais am wybodaeth, byddwch mor glir â phosibl drwy nodi'r wybodaeth benodol sydd ei hangen i gynorthwyo i ymateb i'ch cais.
Os hoffech gyflwyno Cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth, anfonwch e-bost at FOIA.Requests@wales.nhs.uk neu ysgrifennwch at y Tîm Rhyddid Gwybodaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Pencadlys, One Talbot Gateway, Parc Ynni Baglan, Baglan, Port Talbot, SA12 7BR, rhif ffôn 01639 684363.
Fodd bynnag, efallai bod y wybodaeth sydd ei hangen arnoch eisoes ar gael ar y wefan hon.
Isod mae rhai cwestiynau cyffredin a allai fod o gymorth i chi wrth wneud cais am wybodaeth.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.