Trefniadau Parcio Ceir - Safle Singleton:
Mae maes parcio mawr i gleifion ac ymwelwyr ar y safle yn Singleton.
Mae yna hefyd ardaloedd dynodedig ar draws y safle i gleifion ac ymwelwyr barcio ynddynt a mannau penodol ar gyfer bathodyn glas.
Ni chodir tâl am barcio ar safle Singleton. Fodd bynnag, mae terfyn amser o 4 awr ar faes parcio cleifion ac ymwelwyr ar safle Singleton a gyflwynwyd i helpu i ddileu meysydd parcio anawdurdodedig. Gellir ymestyn y terfyn amser hwn ar gyfer cleifion trwy gofnodi cofrestriad y cerbyd ar un o'r tabledi ym mhrif fynedfeydd yr ysbyty.
Mae arwyddion clir i amlygu'r rheolau parcio ledled y safle.
Caniatewch ddigon o amser i barcio gan fod lleoedd yn gyfyngedig, yn enwedig yn ystod oriau brig.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.