Neidio i'r prif gynnwy

Am Singleton

Mae Ysbyty Singleton, sy'n edrych dros Fae Abertawe, yn cynnal amrywiaeth o wasanaethau. Mae'n darparu uned famolaeth ranbarthol, dan arweiniad ymgynghorydd a gofal dwys newyddenedigol. Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys offthalmoleg, trwyn clust a gwddf, a gwasanaethau genito-wrinol.

Mae Canolfan Ganser De-orllewin Cymru ac uned ddydd cemotherapi hefyd yn Singleton, ynghyd â Chanolfan Maggie's eiconig wedi'i lleoli ar ei thiroedd. Mae trawsblaniadau mêr esgyrn yn cael eu cynnal gan y gwasanaeth haematoleg.

Bydd Ysbyty Singleton yn cael newid sylweddol dros y blynyddoedd nesaf. Y weledigaeth yn y pen draw yw bod Singleton yn chwarae rhan allweddol fel campws iechyd arloesol sy'n cynnig gwasanaethau, gofal a gwerthoedd yr 21ain ganrif. Rhan bwysig o hyn yw datblygiad parhaus gofal ambulatory - gwasanaethau lle mae cleifion yn cael mynediad cyflymach at driniaeth heb fod angen aros dros nos.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.